Croeso i YAGYM.CYMRU gwefan newydd Yr Awr Gymraeg

Mae’r Awr Gymraeg yn dathlu ei ddengmlwyddiant yn 2022. Deng mlynedd o hyrwyddo drwy cyfrwng y Gymraeg.

Ar Twitter mae’r Awr wedi bod mwyaf gweithgar, ac er i Twitter parhau fel llwyfan dylanwadol a defnyddiol mae’r amser wedi dod i ni ehangu ein gorwelion a lledaenu ein harbenigedd i’r we, Facebook ac Instagram, byddwn yn dechrau arbrofi gyda TikTok yn fuan.

Felly, beth yw diben y gwefan?

Dros y blynyddoedd rwyf wedi datblygu dealltwriaeth mewn sawl maes sy’n ymwneud a hyrwyddo a chyfathrebu yn y Gymraeg a Saesneg gan gynnwys pedwar o flynyddoedd o fod a chyfrifoldeb dros weithgareddau digidol S4cC ac yn fwy diweddar trwy sefydlu The National Wales a Corgi Cymru, gwasanaethau newyddion digidol cenedlaethol.

Mae’r Gymraeg ar ei fyny, ond mae’n parhau i wynebu heriau. Bydd y gwefan yn esblygu er mwyn cynnig ffenest siop i fusnesau a sefydliadau sy’n defnyddio’r Gymraeg yn ogystal â rhoi sylw i ddigwyddiadau.

Rydym yn awyddus i amlygu busnesau sy’n cynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ac i gynnig cymorth i’r rhai sy’n awyddus dechrau neu gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eu gweithgareddau marchnata a hyrwyddo.

Felly cadwch lygaid ar y wefan, ac os oes angen cymorth a chyngor arnoch, codwch y ffon neu danfonwch e-bost.

Diolch

Huw

Huw Marshall

Yr Awr Gymraeg

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *