Mae’r Byd yn Newid

Mae newidiadau yn y byd digidol yn digwydd ar gyfradd syfrdanol. Mae datblygiadau ym meysydd AI a’r defnydd o lais i ymwneud a thechnoleg yn creu heriau i’r Gymraeg.

Dros y blynyddoedd mae’r Awr Gymraeg wedi ymdrechu i ymateb i hyn drwy amlygu’r Gymraeg ar lwyfannau digidol, yn bennaf Twitter, neu X fel ei elwir heddiw.

Roedd X/Twitter yn llwyfan gwych ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg, digwyddiadau, busnesau a gwasanaethau.

Yn anffodus ers i’r llwyfan newid perchnogaeth mae cyrhaeddiad negeseuon yn y Gymraeg wedi gostwng, yn wir mae miloedd wedi troi ei chefnau ar y llwyfan yn llwyr.

Mae llwyfannau fel Facebook ac Instagram yn dal yn boblogaidd ac mae TikTok yn tyfu yn ei boblogrwydd a dylanwad, ond eto mae’r gofodau digidol hyn yn profi’n heriol i’r Gymraeg.

Pan gychwynnodd yr Awr Gymraeg deuddeg mlynedd yn ôl ym mis Tachwedd 2012 roedd ein ffocws ar un llwyfan ac ar ddatblygu’r“Awr Twitter” sydd wedi rhedeg pob nos Fercher am 8 o’r gloch, dros 600 erbyn hyn. Ond heddiw bach yw’r cyfraniad mae’r awr ei hun yn neud i’r nifer o negeseuon sy’n cael ei rannu gan y cyfrif.

Heddiw mae’r hashnod #yagym yn cael ei ddefnyddio 24/7 ar sawl llwyfan ddigidol, ac mae fwyfwy o bobol yn ein tagio mewn negeseuon, yn enwedig ar Facebook.

Mae’n bwysig symud gyda’r amseroedd felly fydd “awr” Yr Awr Gymraeg yn dod i ben ar ei benblwydd yn 12 mlwydd oed ar nos Fercher y 13eg o Dachwedd, gyda’r Awr Gymraeg yn rhannu negeseuon hyrwyddo pob dydd o’r wythnos, bore, pnawn a nos a hynny ar fwy o lwyfannau.

Bydd llawer fwy o ffocws ar Facebook ac Instagram a byddwn yn datblygu’r gwefan i greu gofod ar gyfer rannu gwybodaeth.

Hoffwn fuddsoddi fwy o’n hamser yn y flwyddyn newydd i ddatblygu Yr Awr Gymraeg fel llwyfan digidol ar gyfer y Gymraeg, fydd eich cefnogaeth barhaol yn ein galluogi i gymryd y Gymraeg i fwy o bobol a gwneud defnydd o’r Gymraeg yn y byd digidol yn rhywbeth cyffredin.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *