Ffarwelio a Twitter/X

Sefydlwyd Yr Awr Gymraeg yn ôl yn 2012 gyda’r nod o amlygu’r Gymraeg mewn byd digidol oedd yn datblygu ar ras.

Am dros ddegawd mae’r awr wedi rhannu cannoedd o negeseuon hyrwyddo i filoedd o gyfrifon ar y llwyfan Twitter, heddiw daw’r rhannu ar y llwyfan hwnnw i ben.

Mae dilyniant a chyrhaeddiad y cyfrif wedi pylu ers i’r llwyfan gael ei brynu gan Elon Musk, mae’n debyg bod sawl rheswm am hyn, y newid yn yr algorithm sydd i weld yn ffafrio cyfrifon eithafol a negeseuon sy’n cael eu rhannu Saesneg, hyn ynghyd a’r ymadawiad o filoedd o bobol o’r llwyfan.

Yn dilyn sefydlu Donald Trump fel arlywydd yr UDA mae’n amlwg fod Musk am ddefnyddio X, fel mae’n cael ei alw bellach, fel teclyn i geisio hyrwyddo’r dde a’r dde eithafol tu hwnt i lannau’r Unol Daleithiau. Nid dyma’r lle i hyrwyddo ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol.

Mae’n bwysig fod y Gymraeg yn amlygu ei hun yn y byd digidol, mae’r angen yn bwysicach heddiw nag ar unrhyw adeg o’r blaen, ac mae gofodau eraill yn bodoli tu hwnt i’r swigen cymharol fach sydd dan ofal Musk, ac mae’n bwysig fod y Gymraeg yn amlwg yn y gofodau hyn, YouTube, Facebook, TikTok a’r rhyngrwyd ei hun sydd bellach dan ddylanwad Google.

Mae pob llwyfan digidol gyda “phroblemau” o safbwynt perchnogaeth ac egwyddorion, ond gall y Gymraeg ddim cefnu neu gilio o’r byd digidol.

Rhaid cofio taw canran go fach o’r byd digidol yw X/Twitter, felly mae’n gwneud synnwyr i ni, Yr Awr Gymraeg, gwneud mwy yn y gofodau a restrwyd. Ond dim ond hyn a hyn gall un person gwneud yn ei amser sbâr i boblogi’r gofodau hyn a hyrwyddo digwyddiadau, gwasanaethau a chynnyrch sydd ar gael yn y Gymraeg.

Fe fyddai yn datblygu cynllun dros y misoedd i ddod er mwyn ceisio parhau ac ehangu gwaith Yr Awr. Ond y cyfamser gallwch ein darganfod draw ar ein cyfrif newydd ar BlueSky yn ogystal ag ar Facebook ac Instagram.

Diolch

Huw Marshall

Sefydlwr

Yr Awr Gymraeg

#yagym

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *