Yn ôl yn 2017 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru nod o gyrraedd miliwn siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050 ac i gynyddu’r canran sy’n defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol o 10% i 20% o fewn yr un cyfnod.
Nod clodyw sydd yn derbyn llawer o ewyllys da gan Gymry Cymraeg a di Gymraeg.
Mae’r ffocws gan y llywodraeth ac yn y cyfryngau ar y rhif y “miliwn” o siaradwyr Cymraeg. Ychydig o sylw sy’n cael ei rhoi i’r ail nod, sef ceisio dyblu’r nifer sy’n defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol.
Mae cryn dipyn o ddadlau ynglŷn â gwir sefyllfa’r niferoedd sydd a’r gallu i siarad Cymraeg. Er i’r cyfrifiad o 2021 awgrymu taw 538,300 o unigolion dros 3 mlwydd oed sydd a’r gallu i siarad Cymraeg, ond yn ôl y data diweddaraf am y Gymraeg o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: 2022 mae 900,000 o bobol o’r un oedran gyda’r gallu i siarad yr iaith.
Beth bynnag y gwir nifer mae’r targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr o fewn golwg, yn enwedig o ystyried y cynlluniau sydd ar waith i gynyddu’r nifer o blant a phobol ifanc sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg gan y llywodraeth mewn partneriaeth a’r awdurdodau lleol, sydd wedi derbyn targedau cynnydd penodol unigol.
Ond beth yw pwynt iaith os nad yw pobol yn ei siarad? Dwi’n medru nofio ond prin anaml dwi’n cael y cyfle i wneud. Pe bai gennyf bwll nofio yn yr ardd dwi’n siŵr ‘swn i’n nofio’n rheolaidd, yn ddyddiol pe bai wedi ei gynhesu a dan do.
Y prif arf ar gyfer creu’r cynnydd yw addysg ag os edrychwch ar y targedau cynnydd sydd yn y ddolen uchod y de fydd yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb ar gyfer creu’r siaradwyr Cymraeg newydd ychwanegol. Mae dros hanner boblogaeth y wlad – 54% – yn trigo yn yr un ar ddeg sir i’r dde o Abertawe ac i’r de o Bowys.
Mae bron i 90,000 o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd, bron i dri chwarter y boblogaeth. Ond mae dros 90,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd, ond mae’r rhain yn boddi mewn mor o Saesneg gyda’r siaradwyr Cymraeg yn cynrychioli ychydig dan chwarter y boblogaeth.
Mae ymchwil yn awgrymu bod 60% o blant sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn dod o aelwydydd lle does dim Cymraeg, 20% o aelwydydd lle mae un rhiant yn siarad yr iaith gyda 20% yn dod o aelwydydd Cymraeg.
Mae synnwyr yn dweud wrthym bydd y canran sy’n dod o gartrefi di Gymraeg yn uwch yn y bloc deheuol poblog o un ar ddeg sir.
Yn ôl yr arolwg blynyddol roedd 15.0% o boblogaeth Cymru (458,800) tair oed neu hŷn eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 5.6% (171,100) yn wythnosol a 7.4% (225,800) yn llai aml. Dywedodd 1.5% (44,900) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 70.5% yn gallu siarad Cymraeg. Felly o’r siaradwyr Cymraeg tua hanner sy’n ei ddefnyddio’n ddyddiol.
Fel rhywun sydd wedi byw, am gyfnodau gwahanol, yn nifer o leoliadau yng Nghymru, Wrecsam, Caerdydd, Caernarfon, Llanelli, Tregaron a’r cymoedd mae genna’i brofiad uniongyrchol o ba mor hwylus yw hi i fyw bywyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn Nhregaron a Chaernarfon oedd modd nofio mewn pwll cynnes o Gymraeg yn ddyddiol, yn Llanelli a Wrecsam roedd hyn ddim yn wir, oedd rhaid mynd i chwilio am lefydd i nofio yn y Gymraeg. Yn y llefydd hyn roedd bathodynnau oren “Cymraeg” y comisiynydd Gymraeg yn hynod werthfawr. Roedd o’n haws yng Nghaerdydd diolch i’r niferoedd a’r tueddiad i Gymry ymgynnull mewn lleoliadau adnabyddus.
Ond yn y cymoedd mae darganfod y Gymraeg yn fwy o her.
Unwaith es i i gyfarfod mewn tafarn a dechrau siarad Saesneg dim ond i bawb o amgylch y bwrdd dechrau siarad Cymraeg. O’n i’n gwybod bod un neu ddau yn gallu’r Gymraeg ond oedd y syniad o fedru cynnal cyfarfod yn y Gymraeg mewn cwm uwchlaw Pen-y-bont yn syndod i fi.
Pam?
O’n i’n ymwybodol bod ganddynt blant yn yr ysgol Gymraeg ond wedi cymryd yn ganiataol taw’r 60% di Gymraeg oeddynt. Ond na, oedd y bobol yma wedi derbyn addysg Cymraeg ei hunain, ac yng nghwmni ei gilydd a siaradwr Cymraeg arall roedd ganddynt yr hyder i siarad yr iaith.
Mae’r mwyafrif o bobol y de sy’n medru’r Gymraeg yn byw eu bywydau trwy gyfrwng yr iaith Saesneg, dyma fydd iaith gwaith i nifer helaeth ac iaith y gerddoriaeth a chynnwys maent yn ei wylio ar y teledu a chlywed ar y radio, a Saesneg fydd yn ei adlonni y mwyafrif ar noson allan.
I brofi gweithgaredd, digwyddiad neu adloniant yn y Gymraeg mae angen chwilio am y pwll, teithio i’r pwll a cheisio magu’r hyder i fynd i nofio ynddo. A pha mor aml mae’r cyfleoedd hyn yn digwydd? Unwaith yr wythnos? Unwaith y mis? I fenthyg term gan y Saeson mae’n “hit or miss” yn dibynnu ar le da chi’n byw.
Dyma’r her fwyaf sy’n wynebu unrhyw iaith, sicrhau fod yr amgylchedd iawn yn bodoli er mwyn iddi fynnu. Felly beth a olygai hyn o safbwynt y Gymraeg?
Roedd sefydlu S4C yn gam pwysig ar y pryd ac yn un angenrheidiol, ond mae arferion unigolion wedi newid yn sylweddol dros y pedwar degawd diwethaf, diolch yn bennaf i dechnoleg a’r we.
Ar ôl addysg S4C ydi’r ymyrraeth ariannol fwyaf yn y Gymraeg. Mae mynnu sylw am lygaid a chlustiau yn 2023 yn fwy o her na ar unrhyw adeg o’r blaen. Mae yna gymaint o ddewis, mewn cymaint o fformatau ar gymaint o lwyfannau mae gallu S4C a thrwy hynny’r Gymraeg i gyrraedd cynulleidfaoedd wedi mynd yn fwy heriol flwyddyn ar flwyddyn. Mae ei chyllid wedi crebachu tra mae gwariant ar gynnwys, yn ei aml ffurfiau, wedi cynyddu’n sylweddol.
Mae ei ddylanwad wedi lleihau dros y blynyddoedd oherwydd twf y we a’r ffrwydrad o gynnwys sydd wedi datblygu, yn enwedig yn ystod y ddegawd ddiwethaf.
Credaf ei fod yn ddigon teg i ddweud y pe bai ni’n edrych i sefydlu endid i helpu cynnal yr iaith heddiw, pedwar deg o flynyddoedd ers sefydlu S4C, nid sianel deledu byddai’r ateb. Mae’r byd wedi symud yn ei flaen cymaint yn yr amser cymharol fyr yna.
Os edrychwn ar fyd radio yng Nghymru, mae dros hanner cant o orsafoedd Saesneg ei iaith ar gael ar DAB, gydag un Gymraeg. Fel S4C mae BBC Radio Cymru yn gorfod ceisio plesio pawb trwy un sianel darlledu. Oes mae yna gynnwys ar gael i wrando ar alw, ond ar ddiwedd y dydd Radio 2 yn y Gymraeg yw o’n bennaf.
Mae’r diffyg dewis yn niweidiol i’r Gymraeg ar fwy nac un lefel. Mae’n creu’r argraff fod y Gymraeg yn wahanol rhywsut i Saesneg, fod gan Saesneg yr hyder i ddarparu cymaint o ddewis. Mae modd datrys hyn yn eithaf cyflym heb fawr o ffwdan, hynny yw os yw’r ewyllys da yn bodoli.
Fel dwi wedi sôn yn gynharach, dyw’r Gymraeg ddim ar ei ben ei hun yn y sefyllfa anodd yma, mae Gwlad yr Ia wedi datgan pryderon fod eu hieuenctid yn troi at Saesneg gan y taw dyma iaith mwyafrif adloniant a chynnwys erbyn heddiw.
Mae’r her sy’n wynebu’r iaith Gymraeg, ar y cyd ac ieithoedd lleiafrifol eraill ledled y byd, yn anferthol, ond mae’n her gallwn ymateb iddo a goroesi.
Mae yna angen S4C arnom, â’r URDD, yr Eisteddfod, â’r ganolfan dysgu Cymraeg cenedlaethol ond mae yna angen i ni ail feddwl y ffordd yr ydym yn cefnogi’r iaith a chreu cyfleoedd i unigolion a theuluoedd i ddefnyddio’r Gymraeg. A dyma’r gair pwysicaf “defnyddio”.
Mae’r llywodraeth wedi adnabod yr angen i ddatblygu cynlluniau deuol ar gyfer y cymunedau lle mae canran uwch o siaradwyr Cymraeg ond sy’n llai o ran niferoedd – presennol a photensial – a’r ardaloedd lle mae’r niferoedd yn uchel ond fel canran o’r boblogaeth yn is.
Mae angen creu cyfleodd gwaith i gadw pobol ifanc yn ein cymunedau Cymraeg yn ogystal â chynnal a chreu amgylchedd lle gallent ddefnyddio’r Gymraeg, yn y byd go iawn a’r byd rhithiol.
Yn yr ardaloedd eraill, y cymunedau dinesig a chymunedau ôl diwydiannol y de, gogledd ddwyrain ac arfordir y gogledd mae angen datblygu dulliau gwahanol, ond pa ddulliau?
Torri’r cyswllt rhwng y Gymraeg fel iaith addysg ac iaith pob dydd ac amlygu manteision amlieithrwydd.
Dyma’r her enfawr, a bydd angen buddsoddi. A buddsoddiad fydd o, mae’r iaith sy’n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r gwaith yma yn hynod o bwysig, yn enwedig os ydym am ddwyn perswâd ar bobol i ddewis addysg Gymraeg ar gyfer eu plant ac i gadw pobol ar ein hochor yn ystod cyfnod economaidd ansefydlog.
Er taw methiant sylweddol oedd datblygiad Yr Hen Lyfrgell, am amryw o resymau, mae’r angen am ofodau lle mae’r Gymraeg i glywed yn rheolaidd yn holl bwysig. Mae Clwb y Bont ym Mhontypridd a thafarn Y Saith Seren yn Wrecsam yn ddim ond dwy enghraifft o beth gall y gymuned Gymraeg datblygu a chynnal. Felly. Be oes oedd modd i leoliadau o amgylch Cymru meddu ar y gallu i gynnal nosweithiau cerddorol, diwylliannol a chomedi heb gost i’r trefnwyr?
Cerddwch lawr unrhyw stryd fawr mewn tref neu bentref sylweddol yng Nghymru ac fe welwch arwyddion yn ffenest clwb cymdeithasol am adloniant o wahanol fathau, prin os o gwbl mae artistiaid cyfrwng Cymraeg i weld yn cael ei arddangos.
Dychmygwch y gwahaniaeth seicolegol ‘sa gweld posteri Cymraeg/dwyieithog yn cael o fewn cymunedau lle mae siaradwyr Cymraeg yn trigo ond ddim i glywed? A dychmygwch yr effaith ar ein diwylliant yn gyffredinol pe bai perfformwyr yn medru treulio mwy o amser yn perfformio.
Mae Iwerddon wedi bod a chynllun treth ers blynyddoedd sy’n eithrio rhai aelodau o’r gymuned gelfyddydol o dalu treth incwm ac mae llywodraeth Cymru yn rhedeg peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol (Universal Basic Income) ar hyn o bryd, beth os y petai lywodraeth Cymru yn rhedeg cynllun peilot ar gyfer cant o berfformwyr Cymraeg? Yn eu galluogi i gigio’n rheolaidd o fewn ein cymunedau ar hyd a lled Cymru.
Mae Parti Ponty, Tafwyl a Gŵyl Fach y Fro yn ddigwyddiadau lle gall unigolion a theuluoedd clywed a defnyddio’r Gymraeg. Pam ddim creu calendr blynyddol o ddigwyddiadau tebyg, yn yr awyr agored yn yr haf a dan do yn yr Hydref a Gaeaf. Bydd cynllun i gefnogi artistiaid yn galluogi hyn.
A sut y gallwn newid y meddylfryd ymysg yr ifanc taw nid iaith ar gyfer addysg yn unig yw’r Gymraeg, ond ffenest i fyd gwahanol ychwanegol ac amlygu dwyieithrwydd fel sgil benodol o fewn economi newydd ryngwladol ddigidol?
Yn aml iawn da ni ddim yn sylweddoli budd o’n profiadau yn yr ysgol nes ein bod wedi aeddfedu ymhellach. Mae’n rhaid i ni wynebu’r ffaith bod rhai myfyrwyr yn gweld astudio trwy gyfrwng y Gymraeg fel baich ychwanegol, fel clwyd sydd angen ei oroesi’n ddyddiol. Does dim ond rhaid edrych y nifer sy’n gofyn am y papur Saesneg cyffelyb wrth eistedd papur cyfrwng Cymraeg mewn arholiad TGAU.
Mae angen dylanwadu arnynt, ag yn sicr nid athrawon a rhieni yw’r bobol i neud hynny.
Mae gweld a chlywed Cymry adnabyddus yn defnyddio’r Gymraeg yn wych, ac mae angen gweithio gydag unigolion dylanwadol o feysydd adloniant a chwaraeon i gynyddu’r swmp o gynnwys yn y Gymraeg sy’n bodoli yn y byd digidol.
Un garfan sydd angen ei feithrin fel modelau rôl a dylanwadwyr yw disgyblion o fewn ysgolion. Mae disgyblion iau llawer mwy tebygol o edmygu a chopïo plant hun.
Mae Bagloriaeth Cymru yn cynnwys elfennau sy’n berthnasol iawn i’r Gymraeg gan gynnwys elfen gymunedol, elfen mae nifer o brifysgolion a chyflogwyr yn edrych arno’n ffafriol fel rhan o unrhyw gais.
Oes modd ddatblygu rhwydwaith o bapurau bro ddigidol a gorsafoedd radio gymunedol lle gall bobol ifanc blynyddoedd 12 ag 13 mynegi ei hunain a thrafod materion sydd o bwys iddynt? A chynnal rhain mewn lleoliadau tu allan i’r ysgol? Bydd hyn yn galluogi pobl ifanc yn ba bynnag cymuned maent yn trigo gweld a chlywed y Gymraeg yn ei lleisiau ei hunain a chreu cynnwys yn y Gymraeg i rannu a mwynhau yn enwedig ar y rhwydweithiau cymdeithasol.
Gall creu modelau rôl cyfrwng Cymraeg ymysg ein myfyrwyr bl. 12 ac 13 creu amgylchedd newydd i’r iaith.
Mae dwsinau o siopau yn sefyll yn wag ar ein strydoedd mawr ar hyd a lled Cymru gall fod yn gartrefi i’r gweithgareddau yma ac eraill, gall y rhain fod yn “ffenestri siop” llythrennol i’r Gymraeg a gweithredu fel abwyd i ddenu’r cyhoedd i ganol ein trefi a phentrefi.
Mae elfennau o’r hyn dwi’n ei drafod uchod yn cael ei weithredu eisoes yng Nghymru, gan y Mentrau Iaith.
Yr adnodd fwyaf sydd angen i ddatblygu’r cynlluniau hyn yw pobol. Gall y cynlluniau hyn greu swyddi newydd a datblygu sgiliau ymarferol angenrheidiol ar gyfer gweithlu hyderus sy’n medru’r Gymraeg.
Mae rhwydwaith y Mentrau Iaith yn bodoli eisoes, felly does dim angen ail ddyfeisio’r olwyn. Trwy gydlynu a chydweithio gyda chymorth buddsoddiad gallwn newid ffawd y Gymraeg.
Mae canlyniadau’r cyfrifiad yn awgrymu bod yr hyn sydd wedi cael ei wneud yn enw’r Gymraeg dros y ddegawd ddiwethaf heb weithio, mae angen newid tac ac ychwanegu lefel o uchelgais er bydd y Gymraeg a dyfodol Cymru fel gwald.
Huw Marshall
Sylfaenydd Yr Awr Gymraeg