Dathlu’r 10 ac ehangu ein gwasanaethau

Mae mis Tachwedd 2022 yn gweld Yr Awr Gymraeg yn cyrraedd carreg filltir nodweddiadol. Eleni mae’r Awr yn dathlu ei ben-blwydd yn deng mlwydd oed.

Am 8 o’r gloch ar yr 21ain o Dachwedd 2022 dechreuodd yr awr gyntaf o dros 500 erbyn hyn.

https://twitter.com/yrawrgymraeg/status/271303634376069120?s=20&t=tN1irkOOjFQ0Oji0UMZBiQ

Awr wythnosol pob nos Fercher rhwng 8 a 9 ar Twitter oedd Yr Awr Gymraeg yn wreiddiol gan ddefnyddio’r hashnod #yrawrgymraeg. Ar y pryd 140 llythyren oedd uchafswm neges ar Twitter felly crëwyd y talfyriad #yagym Yr Awr GYMraeg er mwyn rhyddhau mwy o le ar gyfer negeseuon. Yn 2017 fe gododd yr uchafswm i 280.

Mae’r Awr Gymraeg bellach wedi ymestyn tu hwnt i’r awr pob nos Fercher am 8 ag yn rhannu negeseuon sy’n defnyddio’r hashnod #yagym 365 dydd y flwyddyn, bore, pnawn a nos.

Ond mae’r oes a’r amser wedi symud yn ei flaen ac mae llwyfannau fel Facebook, Instagram a TikTok yn gartrefi gwych ar gyfer hyrwyddo a marchnata.

Bydd Yr Awr Gymraeg felly yn ymestyn gweithgaredd tu hwnt i Twitter ag yn rhannu fwy o gynnwys  i’r llwyfannau hyn. Cofiwch fod modd defnyddio’r hashnod #yagym ar draws y pedwar llwyfan.

Mae ein cyfrif Twitter, sydd bellach gyda dros 14,000 o ddilynwyr ag yn cyrraedd dros 700,000 o gyfrifon Twitter pob wythnos yma:

https://www.twitter.com/yrawrgymraeg/

Rydym eisoes ar Facebook

https://www.facebook.com/YrAwrGymraeg/

ag Instagram

https://www.instagram.com/yrawrgymraeg/

Mae ein cyfrif TikTok newydd ei greu

https://www.tiktok.com/@yrawrgymraeg

Hoffech chi gyrraedd mwy o bobol gyda gwybodaeth am eich cynnyrch, gwasanaethau neu ddigwyddiad?

Gallwn helpu chi i greu cynnwys gweledol a fideo proffesiynol ar gyfer y llwyfannau hyn, gallwn helpu chi greu strategaeth hyrwyddo marchnata ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.

Os hoffech chi ddysgu mwy, danfonwch e-bost at huw@yagym.cymru heddiw.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *